Back to top

Rhifau, Diwrnodau’r Wythnos, Misoedd, y Tymhorau a’r Amser

Rhif Ynganiad yn Sbaeneg Rhif Ynganiad yn Sbaeneg
0 cero 19 Diecinueve
1 uno 20 Veinte
2 dos 30 Treinta
3 tres 40 Cuarenta
4 cuatro 50 Cincuenta
5 cinco 60 Sesenta
6 seis 70 Setenta
7 siete 80 Ochenta
8 ocho 90 Noventa
9 nueve 100 Cien
10 diez 200 Dos cientos
11 once 500 Quinientos
12 doce 1000 Un mil
13 trece 2000 Dos mil
14 catorce 5000 Cinco mil
15 quince 100,000 Cien mil
16 dieciséis 1,000,000 Un millón
17 diecisiete 451 Cuatrocientos cincuenta y uno
18 dieciocho 2009 Dos mil nueve

Los Días de la Semana Diwrnodau’r
domingo Dydd Sul
lunes Dydd Llun
martes Dydd Mawrth
miércoles Dydd Mercher
jueves Dydd Iau
viernes Dydd Gwener
sábado Dydd Sadwrn
Semana Wythnos

*COFWICH !  -NID oes priflythyren ar diwrnodau’r wythnos yn Sbaeneg*


Los Meses del Año Misoedd y Flwyddyn
enero Ionawr
febrero Chwefror
marzo Mawrth
abril Ebrill
mayo Mai
junio Mehefin
julio Gorffennaf
agosto Awst
septiembre Medi
octubre Hydref
noviembre Tachwedd
diciembre Rhagfyr

*COFWICH !  -NID oes priflythyren ar misoedd y flwyddyn yn Sbaeneg*


Er mwyn gofyn beth yw’r dyddiad gellir defnyddio’r strwythurau canlynol :


¿Cuál es la fecha de hoy? Beth yw’r dyddiad heddiw ?
¿Qué día es hoy? Pa ddiwrnod yw hi heddiw ?

Er mwyn ateb y cwestiynnau yma defnyddir y fformiwla canlynol :

Es el + RHIF + de + MIS + BLWYDDYN

e.e                   Es el once de mayo 2016

                        Yr unfed ar ddeg o Fai 2016

                        Es el ocho de diciembre 1957

                        Yr wythfed o Ragfyr 1957

 

Er mwyn ychwanegu diwrnod yr wythnos i’r ateb rhaid ei roi o flaen y dyddiad :

Hoy es domingo, el trece de enero 2011.

*NODIR – Mae yna eithriad i’r fformiwla, sef y cyntaf o’r mis. Yn hytrach na defnyddio ‘el uno’ rhaid defnyddio ‘el primero’

e.e                   Es el primero de octubre

                        Y cyntaf o Hydref

                        Es el primero de marzo

                        Y cyntaf o Fawrth

 

*SYLWER – Pan yn dweud y flwyddyn yn Sbaeneg, nid yw’n cael ei dorri i lawr fel yn Saeneg neu Cymraeg, rhaid dweud y rhif cyfan

e.e                   2016 – dos mil y dieciseis

                        1955 – mil novecientos cincuenta y cinco

                        1366 – mil trescientos sesenta y seis


Las Estaciones Y Tymhorau
la primavera Gwanwyn
el verano Haf
el otoño Hydref
el invierno Gaeaf

AMSER

Er mwyn gofyn am yr amser yn Sbaeneg, rhaid gofyn y cwestiwn :

¿Qué hora es?

Faint o’r gloch yw hi?

Er mwyn dweud ei fod hi’n 1 o’r gloch rhaid defnyddio’r strwythr

ES la una (unigol)

Ar gyfer pob awr arall defnyddir

SON las dos (lluosog)

Sbaeneg Cymraeg Sbaeneg Cymraeg
Es la una Mae hi’n un o’r gloch Son las diez Mae hi’n ddeg o’r gloch
Son las dos Mae hi’n ddau o’r gloch Son las once Mae hi’n un ar ddeg o’r gloch
Son las tres Mae hi’n dri o’r gloch Son las doce Mae hi’n ddeuddeg o’r gloch
Son las cuatro Mae hi’n bedwar o’r gloch ….y cuarto / y quince chwarter wedi
Son las cinco Mae hi’n bump o’r gloch Son las tres y cuarto Mae hi’n chwarter wedi tri
Son las seis Mae hi’n chwech o’r gloch Son las tres y quince Mae hi’n chwarter wedi tri
Son las siete Mae hi’n saith o’r gloch Son las nueve y cuarto Mae hi’n chwarter wedi naw
Son las ocho Mae hi’n wyth o’r gloch Son las nueve y quince Mae hi’n chwarter wedi naw
Son las nueve Mae hi’n naw o’r gloch

*SYLWER – Peidiwch â drysu ‘cuarto’ (chwarter) gyda ‘cuatro’ (pedwar)*


…y media / y treinta Hanner awr wedi
Son las dos y media Mae hi’n hanner awr wedi dau
Son las dos y treinta Mae hi’n hanner awr wedi dau
Son las seis y media Mae hi’n hanner awr wedi chwech
Son las seis y treinta Mae hi’n hanner awr wedi chwech
…menos I (y nifer o funudau sy’n weddill nes yr awr llawn nesaf)
Son las cuatro menos cuarto Mae hi’n chwarter i bedwar
Son las seis menos diez Mae hi’n ddeg munud i chwech
Son las once menos veinte Mae hi’n ugain munud i un ar ddeg

*NODIR – Gellir hefyd ysgrifennu yr oriau ar ffurf digid yn Sbaeneg.

e.e Son las ocho / Son las 8.00

Nid yw Sbaenwyr yn defnyddio ‘YB’(AM) neu ‘YH’ (PM). Er mwyn dynodi’r amser o’r dydd rhaid defnyddio y canlynol :


… de la mañana … y bore
Son las dos de la mañana Mae hi’n ddau o’r gloch y bore
… de la tarde … y prynhawn
Son las cinco de la tarde Mae hi’n bump o’r gloch y prynhawn
…de la noche … y nos
Son las siete de la noche Mae hi’n saith o’r gloch y nos

Er mwyn dweud ei fod yn hanner nos neu’n hanner dydd, rhaid defyddior strwythurau canlynol :


Es medianoche Mae hi’n hanner nos
Es mediodía Mae hi’n hanner dydd

Vocabulario útil Geirfa defnyddiol Vocabulario útil Geirfa defnyddiol
Día Diwrnod El mes Mis
Hoy Heddiw El Año Blwyddyn
Ayer Ddoe La década Degawd
Mañana Yfory El siglo Canrif
La semana Wythnos Pasado mañana Y diwrnod ar ôl yfory
Próximo/a Nesaf anteayer Echddoe
Último/a Diwethaf