Back to top

Y Presennol

Beth yw'r y presennol a pryd i’w ddefnyddio?

Mae’r presennol yn cael ei ddefnyddio i siarad am beth sydd yn digwydd nawr.

Berfau Rheolaidd

Er mwyn ffurfio’r presennol rhaid cyfnewid terfyniad y berfenw (-ar, -er neu –ir) gyda terfyniadau’r presennol :

ESCUCHAR (gwrando) COMER (bwyta) VIVIR (byw)
yo Escucho Como Vivo
Eschuchas Comes Vives
él/ella/usted Escucha Come Vive
nosotros/as Escuchamos Comemos Vivimos
vosotros/as Escucháis Coméis Vivís
ellos/ellas/ustedes Escuchan Comen Viven

Escucho Rwy’n gwrando
Escuchas Rwyt ti’n gwrando
Escucha Mae ef/ hi’n gwrando
Escuchamos Rydym ni’n gwrando
Escucháis Rydych chi’n gwrando
Escuchan Maen nhw’n gwrando

Berfau ble mae'r newid yn bôn y ferf

Mae berfau lle mae newid yn bôn y ferf yn cael eu ffurfio yn yr un ffordd a berfau rheoliadd y presennol. Fodd bynnag, mae y bôn yn newid yn y ffurfiau canlynol : fi, ti, ef/hi, nhw. Mae yna dri grwp cyffredin.


O > UE Poder (gallu) E > IE Querer (eisiau) E >I Pedir (gofyn)
yo Puedo Quiero Pido
Puedes Quieres Pides
él/ella/usted Puede Quiere Pide
nosotros/as Podemos Queremos Pedimos
vosotros/as Podéis Queréis Pedís
ellos/ellas/ustedes Pueden Quieren Piden

Enghreifftiau eraill o newid yn bôn y ferf yw :

u/o >ue

jugar > juego (Rwy’n chwarae)

costar > cuesta (Mae'n costio)

acostarse > me acuesto (Rwy’n mynd i'r gwely)

dormir > duermo (Rwy’n cysgu)

encontrar > encuentro (Rwy’n ffeindio/cwrdd)

llover > llueve (Mae'n bwrw)

e>ie

despertarse > me despierto (Rwy’n deffro)

empezar > empiezo (Rwy’n dechrau)

entender > entiendo (Rwy’n deall)

pensar > pienso (Rwy’n meddwl)

e>i

repetir > repito (Rwy’n ailadrodd)

servir > sirvo (Rwy’n gweini)


Berfau Afreolaidd ag Ymatblyg

Beth yw berfau afreolaidd a pryd ydw i’n eu defnyddio ?

Nid yw berfau afreolaidd yn dilyn yr un patrwm â berfau rheolaidd –ar, -er ag –ir. Mae nifer o ferfau cyffredin a denyddiol yn Sbaeneg yn rhai afreolaidd.

Beth yw berfau ymatblyg a pryd ydw i’n eu defnyddio ?

Mae berfau ymatblyg yn cynnwys rhagenw ymatblyg. Maent yn disgrifio gweithred rydym yn ei wneud ein hunain.

Berfau Afreolaidd

Mae’r berfau canlynol yn afreolaidd yn y ffurf yo, ond yn reolaidd ym mhob ffurf arall.

Conducir (gyrru) > conduzco

Cononcer (nabod) > conozco

Dar (rhoi) > doy

Hacer (gwneud) > hago

Poner (rhoi) > pongo

Saber (gwybod) > sé

Salir (mynd allan) > salgo

Tener (cael) > tengo

 

Mae rhai berfau yn fwy afreolaidd

SER (bod) ESTAR (bod) IR (mynd)
yo Soy Estoy Voy
Eres Estás Vas
él/ella/usted Es Está Va
nosotros/as Somos Estamos Vamos
vosotros/as Sois Estáis Vais
ellos/ellas/ustedes Son Están Van

Berfau Atblygol

Mae berfau atblygol yn disgrifio gweithred rydych yn ei wneud eich hunain. Maent yn cael eu ffurfio yn yr un ffordd a berfau rheolaidd y presennol ond maent yn cynnwys rhagenw atblygol.

Yn y berfenw, mae’r rhagenw atblygol ar ddiwedd y ferf e.e Despertarse (deffro).

Yn y presennol mae’r rhagenw cyn y ferf ag yn dibynnu ar y person e.e. Me despierto.

DUCHARSE (cael cawod) DESPERTARSE (deffro)
yo Me ducho Me despierto
Te duchas Te despiertas
él/ella/usted Se ducha Se despierta
nosotros/as Nos duchamos Nos despertamos
vosotros/as Os ducháis Os despertáis
ellos/ellas/ustedes Se duchan Se despiertan

Y Gorffennol

Beth yw'r y gorffennol a pryd i’w ddefnyddio ?

Mae'n cael ei ddefnyddio i siarad am weithgareddau gorffenedig yn y gorffennol e.e Visité un museo ayer (ymwelais â amgueddfa ddoe).

Berfau Rheolaidd y Gorffennol

Er mwyn ffurfio’r gorffennol rhaid cyfnewid terfyniad y berfenw (-ar, -er neu –ir) gyda terfyniadau’r gorffennol :

VISITAR (ymweld) COMER (bwyta) SALIR (mynd allan)
yo Visité Comí Salí
Visitaste Comiste Saliste
él/ella/usted Visitó Comió Salió
nosotros/as Visitamos Comimos Salimos
vosotros/as Visitasteis Comisteis Salisteis
ellos/ellas/ustedes Visitaron Comieron Salieron

Visité Ymwelais i
Visitaste Ymwelaist ti
Visitó Ymwelodd ef/hi
Visitamos Ymwelom ni
Visitasteis Ymweloch chi
Visitaron Ymwelon nhw

Berfau Afreolaidd y Gorffennol

Y berfau afreolaidd mwyaf cyffredin yw:

SER/IR (bod/mynd) VER (gweld) HACER (gwneud) TENER (cael)
yo Fui Vi Hice Tuve
Fuiste Viste Hiciste Tuviste
él/ella/usted Fue Vio Hizo Tuvo
nosotros/as Fuimos Vimos Hicimos Tuvimos
vosotros/as Fuisteis Visteis Hicisteis Tuvisteis
ellos/ellas/ustedes Fueron Vieron Hicieron Tuvieron

Berfau afreolaidd eraill yw:


DAR (rhoi) QUERER (eisiau) ESTAR (bod) SABER (gwybod)
yo Di Quise Estuve Supe
Diste Quisiste Estuviste Supiste
él/ella/usted Dio Quiso Estuvo Supo
nosotros/as Dimos Quisimos Estuvimos Supimos
vosotros/as Disteis Quisisteis Estuvisteis Supisteis
ellos/ellas/ustedes Dieron Quisieron Estuvieron Supieron

Yr Amherffaith

Beth yw'r amherffaith a pryd i’w ddefnyddio ?

Mae’r amherffaith yn ffordd arall o siarad am y gorffennol. Yn Sbaeneg, fe’i ddefnyddir i :

  • ddisgrifio gweithgareddau cafodd ei ailadrodd yn y gorffennol e.e. Bebíamos un café a las diez todos los días (Yfom coffi bob dydd am ddeg).
  • manylion cefndirol e.e. El restaurante era énorme (roedd y bwyty yn enfawr).
  • beth roedd pobl arfer ei wneud a sut roedd pethau arfer bod e.e. Antes vivía con mis abulos pero ahora vivo con mi novio. (cyn roeddwn yn byw gyda fy nain a taid ond nawr rwy’n byw gyda fy nghariad).

Berfau Rheolaidd yr Amherffaith

Er mwyn ffurfio’r amherffaith rhaid cyfnewid terfyniad y berfenw (-ar, -er neu –ir) gyda terfyniadau’r amherffaith :

HABLAR (siarad) HACER (gwneud) VIVIR (byw)
yo Hablaba Hacía Vivía
Hablabas Hacías Vivías
él/ella/usted Hablaba Hacía Vivía
nosotros/as Hablábamos Hacíamos Vivíamos
vosotros/as Hablabais Hacíais Vivíais
ellos/ellas/ustedes Hablaban Hacían Vivían

Hablaba Roeddwn i’n siarad
Hablabas Roeddet ti’n siarad
Hablaba Roedd ef/hi’n siarad
Hablábamos Roeddem ni’n siarad
Hablabais Roeddech chi’n siarad
Hablaban Roedden nhw’n siarad

Berfau Afreolaidd yr Amherffaith

Mae yna tair berf afreolaidd yn yr amherffaith.

IR (mynd) SER (bod) VER (gweld)
yo Iba Era Veía
Ibas Eras Veías
él/ella/usted Iba Era Veía
nosotros/as íbamos éramos Veíamos
vosotros/as Ibais Erais Veíais
ellos/ellas/ustedes Iban Eran Veían

Y Dyfodol Agos

Beth yw’r dyfodol agos a pryd i’w ddefnyddio ?

Mae’r dyfodol agos yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio beth sydd yn mynd i ddigwydd e.e. Yfory, heno neu wythnos nesaf.

Voy a ir de compras con mis amigos (Rwy’n mynd i fynd i siopa gyda fy ffrindiau).

Er mwyn ffurfio’r dyfodol agos rydych angen defnyddio’r ferf IR yn y presennol + a + berfenw.

yo Voy Beber
Vas Ir
él/ella/usted Va a Comer
nosotros/as Vamos Ver
vosotros/as Vais Salir
ellos/ellas/ustedes Van Hacer

Voy a beber Rwy’n mynd i yfed
Vas a beber Rwyt ti’n mynd i yfed
Va a beber Mae ef/hi’n mynd i yfed
Vamos a beber Rydym ni’n mynd i yfed
Vais a beber Rydych chi’n mynd i yfed
Van a beber Maen nhw’n mynd i yfed

Y Dyfodol

Beth yw’r dyfodol a pryd i’w ddefnyddio?

Mae’r dyfodol yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio beth sydd yn mynd i ddigwydd yn y dyfodol e.e El edificio sera muy moderno (Fe fydd yr adeilad yn fodern iawn).

Berfau Rheolaidd

Er mwyn ffurfio’r dyfodol rydych yn cymryd y berfenw ac yn ychwanegu terfyniadau’r dyfodol. Mae’r terfyniadau yma yr un peth ar gyfer berfau –ar, -ir ag –er.

yo Hablaré
Hablarás
él/ella/usted Hablará
nosotros/as Hablaremos
vosotros/as Hablaréis
ellos/ellas/ustedes Hablarán

Hablaré Byddaf yn siarad
Hablarás Byddi di’n siarad
Hablará Bydd ef/hi’n siarad
Hablaremos Byddwn ni’n siarad
Hablaréis Byddwch chi’n siarad
Hablarán Byddan nhw’n siarad

Berfau Afreolaidd

Mae gan y berfau canlynol bonyn afreolaidd yn y dyfodol ond mae’r terfyniadau yr un peth â’r berfau rheolaidd

Decir (dweud) > diré

Hacer (gwneud) > haré

Poder (gallu) > podré

Ponder (rhoi) > pondré

Querer (eisiau) > querré

Saber (gwybod) > sabré

Salir (mynd allan) > saldré

Tener (cael/bod gennych) > tendré

Venir (dod) > vendré


Yr Amodol

Beth yw’r amodol a pryd i’w ddefnyddio ?

Mae’r amodol yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio beth buaswch chi’n ei wneud yn y dyfodol e.e Me encantaría visitar Nueva York (Byddwn i’n caru ymweld ag Efrog Newydd).

Berfau Rheolaidd

Er mwyn ffurfio’r amodol rydych yn cymryd y berfenw ac yn ychwanegu terfyniadau’r amodol. Mae’r terfyniadau yma yr un peth ar gyfer berfau –ar, -ir ag –er.

VIVIR (byw)
yo Viviría
Vivirías
él/ella/usted Viviría
nosotros/as Viviríamos
vosotros/as Viviríais
ellos/ellas/ustedes Vivirían

Viviría Buaswn i’n byw
Vivirías Buaset ti’n byw
Viviría Buasai ef/hi’n byw
Viviríamos Buasen ni’n byw
Viviríais Buasech chi’n byw
Vivirían Buasen nhw’n byw

Berfau Afreolaidd

Mae berfau ble mae bôn y ferf yn afreolaidd yn y dyfodol hefyd gyda bôn y ferf afreolaidd yn yr amodol e.e.

Tener (cael) > tendría, tendrías, tendría, tendríamos, tendríais, tendrían.

Hacer (gwneud) >haría, harías, haría, haríamos, haríais, harían.

Haber (cael) > habría, habrías, habría, habríamos, habríais, habrían.

Ddefnydd ychwanegol o’r Amodol

Gellir defnyddio’r amodol i fynegi syniadau dyfodol gan ddefnyddio’r ferf gustar + berfenw e.e Me gustaría ir al extranjero (Hoffwn i fynd dramor).

Gellir defnyddio’r amodol o’r ferf poder + berfenw er mwyn mynegi’r syniad o rywbeth a gallwch chi ei wneud e.e Podríamos ir al teatro (Gallwn ni fynd i’r theatr).

Gellir defnyddio yr amodol o’r ferf deber + berfenw er mwyn mynegi’r syniad o rywbeth y dylsech chi ei wneud e.e Deberíamos ir a visitar nuestros abuelos (Dylsem ni fynd i ymweld â ein nain a taid).

Y Gerwnd

Beth yw’r gerwnd a pryd i’w ddefnyddio ?

Mae’r gerwnd yn debyg iawn i geiriau ‘ing’ yn Saesneg, e.e. ‘walking’ a ‘talking’.

Rydych yn ei ddefnyddio er mwyn rhoi mwy o wybodaeth am sut mae rhywbeth yn cael ei wneud e.e. Voy andando al polideportivo (Rwy’n cerdded i’r ganolfan hamdden).

Er mwyn ffurfio’r presennol di-dor sydd yn dysgrifio yr hyn sydd yn digwydd ar hyn o bryd e.e ¿ Qué estas haciendo ? (Beth wyt ti’n ei wneud ?).

yo Estoy
Estás Leyendo
él/ella/usted Está + Caminando
nosotros/as Estamos Hablando
vosotros/as Estáis
ellos/ellas/ustedes Están

Estoy leyendo mi libro (Rwy’n darllen fy llyfr)

Er mwyn ffurfio’r amherffaith di-dor sydd yn disgrifio beth oedd yn digwedd mewn sefyllfa yn y gorffennol e.e. Estaba estudiando cuando llegó mi madré (Roeddwn i’n astudio pan gyrhaeddodd fy mam).


yo Estaba
Estabas Leyendo
él/ella/usted Estaba + Caminando
nosotros/as Estabamos Hablando
vosotros/as Estabais
ellos/ellas/ustedes Estaban

Estaban caminando (Roedden nhw’n cerdded)


Ffurfio’r Gerwnd rheolaidd

Er mwyn ffurfio’r gerwnd rheolaidd, cymerwch y berfenw, tynnwch y diweddiad –ar, -er, neu –ir ag ychwanegwch –ando i berfau –ar a –iendo i berfau –er ag –ir.

Mar rhai geryndau afreolaidd yn cynnwys :

Leer (darllen ) > leyendo

Oír (clywed) > oyendo