Y Presennol
Beth yw'r y presennol a pryd i’w ddefnyddio?
Mae’r presennol yn cael ei ddefnyddio i siarad am beth sydd yn digwydd nawr.
Berfau Rheolaidd
Er mwyn ffurfio’r presennol rhaid cyfnewid terfyniad y berfenw (-ar, -er neu –ir) gyda terfyniadau’r presennol :
| ESCUCHAR (gwrando) | COMER (bwyta) | VIVIR (byw) | |
|---|---|---|---|
| yo | Escucho | Como | Vivo |
| tú | Eschuchas | Comes | Vives |
| él/ella/usted | Escucha | Come | Vive |
| nosotros/as | Escuchamos | Comemos | Vivimos |
| vosotros/as | Escucháis | Coméis | Vivís |
| ellos/ellas/ustedes | Escuchan | Comen | Viven |
| Escucho | Rwy’n gwrando |
| Escuchas | Rwyt ti’n gwrando |
| Escucha | Mae ef/ hi’n gwrando |
| Escuchamos | Rydym ni’n gwrando |
| Escucháis | Rydych chi’n gwrando |
| Escuchan | Maen nhw’n gwrando |
Berfau ble mae'r newid yn bôn y ferf
Mae berfau lle mae newid yn bôn y ferf yn cael eu ffurfio yn yr un ffordd a berfau rheoliadd y presennol. Fodd bynnag, mae y bôn yn newid yn y ffurfiau canlynol : fi, ti, ef/hi, nhw. Mae yna dri grwp cyffredin.
| O > UE Poder (gallu) | E > IE Querer (eisiau) | E >I Pedir (gofyn) | |
|---|---|---|---|
| yo | Puedo | Quiero | Pido |
| tú | Puedes | Quieres | Pides |
| él/ella/usted | Puede | Quiere | Pide |
| nosotros/as | Podemos | Queremos | Pedimos |
| vosotros/as | Podéis | Queréis | Pedís |
| ellos/ellas/ustedes | Pueden | Quieren | Piden |
Enghreifftiau eraill o newid yn bôn y ferf yw :
u/o >ue
jugar > juego (Rwy’n chwarae)
costar > cuesta (Mae'n costio)
acostarse > me acuesto (Rwy’n mynd i'r gwely)
dormir > duermo (Rwy’n cysgu)
encontrar > encuentro (Rwy’n ffeindio/cwrdd)
llover > llueve (Mae'n bwrw)
e>ie
despertarse > me despierto (Rwy’n deffro)
empezar > empiezo (Rwy’n dechrau)
entender > entiendo (Rwy’n deall)
pensar > pienso (Rwy’n meddwl)
e>i
repetir > repito (Rwy’n ailadrodd)
servir > sirvo (Rwy’n gweini)
Berfau Afreolaidd ag Ymatblyg
Beth yw berfau afreolaidd a pryd ydw i’n eu defnyddio ?
Nid yw berfau afreolaidd yn dilyn yr un patrwm â berfau rheolaidd –ar, -er ag –ir. Mae nifer o ferfau cyffredin a denyddiol yn Sbaeneg yn rhai afreolaidd.
Beth yw berfau ymatblyg a pryd ydw i’n eu defnyddio ?
Mae berfau ymatblyg yn cynnwys rhagenw ymatblyg. Maent yn disgrifio gweithred rydym yn ei wneud ein hunain.
Berfau Afreolaidd
Mae’r berfau canlynol yn afreolaidd yn y ffurf yo, ond yn reolaidd ym mhob ffurf arall.
Conducir (gyrru) > conduzco
Cononcer (nabod) > conozco
Dar (rhoi) > doy
Hacer (gwneud) > hago
Poner (rhoi) > pongo
Saber (gwybod) > sé
Salir (mynd allan) > salgo
Tener (cael) > tengo
Mae rhai berfau yn fwy afreolaidd
| SER (bod) | ESTAR (bod) | IR (mynd) | |
|---|---|---|---|
| yo | Soy | Estoy | Voy |
| tú | Eres | Estás | Vas |
| él/ella/usted | Es | Está | Va |
| nosotros/as | Somos | Estamos | Vamos |
| vosotros/as | Sois | Estáis | Vais |
| ellos/ellas/ustedes | Son | Están | Van |
Berfau Atblygol
Mae berfau atblygol yn disgrifio gweithred rydych yn ei wneud eich hunain. Maent yn cael eu ffurfio yn yr un ffordd a berfau rheolaidd y presennol ond maent yn cynnwys rhagenw atblygol.
Yn y berfenw, mae’r rhagenw atblygol ar ddiwedd y ferf e.e Despertarse (deffro).
Yn y presennol mae’r rhagenw cyn y ferf ag yn dibynnu ar y person e.e. Me despierto.
| DUCHARSE (cael cawod) | DESPERTARSE (deffro) | |
|---|---|---|
| yo | Me ducho | Me despierto |
| tú | Te duchas | Te despiertas |
| él/ella/usted | Se ducha | Se despierta |
| nosotros/as | Nos duchamos | Nos despertamos |
| vosotros/as | Os ducháis | Os despertáis |
| ellos/ellas/ustedes | Se duchan | Se despiertan |
Y Gorffennol
Beth yw'r y gorffennol a pryd i’w ddefnyddio ?
Mae'n cael ei ddefnyddio i siarad am weithgareddau gorffenedig yn y gorffennol e.e Visité un museo ayer (ymwelais â amgueddfa ddoe).
Berfau Rheolaidd y Gorffennol
Er mwyn ffurfio’r gorffennol rhaid cyfnewid terfyniad y berfenw (-ar, -er neu –ir) gyda terfyniadau’r gorffennol :
| VISITAR (ymweld) | COMER (bwyta) | SALIR (mynd allan) | |
|---|---|---|---|
| yo | Visité | Comí | Salí |
| tú | Visitaste | Comiste | Saliste |
| él/ella/usted | Visitó | Comió | Salió |
| nosotros/as | Visitamos | Comimos | Salimos |
| vosotros/as | Visitasteis | Comisteis | Salisteis |
| ellos/ellas/ustedes | Visitaron | Comieron | Salieron |
| Visité | Ymwelais i |
| Visitaste | Ymwelaist ti |
| Visitó | Ymwelodd ef/hi |
| Visitamos | Ymwelom ni |
| Visitasteis | Ymweloch chi |
| Visitaron | Ymwelon nhw |
Berfau Afreolaidd y Gorffennol
Y berfau afreolaidd mwyaf cyffredin yw:
| SER/IR (bod/mynd) | VER (gweld) | HACER (gwneud) | TENER (cael) | |
|---|---|---|---|---|
| yo | Fui | Vi | Hice | Tuve |
| tú | Fuiste | Viste | Hiciste | Tuviste |
| él/ella/usted | Fue | Vio | Hizo | Tuvo |
| nosotros/as | Fuimos | Vimos | Hicimos | Tuvimos |
| vosotros/as | Fuisteis | Visteis | Hicisteis | Tuvisteis |
| ellos/ellas/ustedes | Fueron | Vieron | Hicieron | Tuvieron |
Berfau afreolaidd eraill yw:
| DAR (rhoi) | QUERER (eisiau) | ESTAR (bod) | SABER (gwybod) | |
|---|---|---|---|---|
| yo | Di | Quise | Estuve | Supe |
| tú | Diste | Quisiste | Estuviste | Supiste |
| él/ella/usted | Dio | Quiso | Estuvo | Supo |
| nosotros/as | Dimos | Quisimos | Estuvimos | Supimos |
| vosotros/as | Disteis | Quisisteis | Estuvisteis | Supisteis |
| ellos/ellas/ustedes | Dieron | Quisieron | Estuvieron | Supieron |
Yr Amherffaith
Beth yw'r amherffaith a pryd i’w ddefnyddio ?
Mae’r amherffaith yn ffordd arall o siarad am y gorffennol. Yn Sbaeneg, fe’i ddefnyddir i :
- ddisgrifio gweithgareddau cafodd ei ailadrodd yn y gorffennol e.e. Bebíamos un café a las diez todos los días (Yfom coffi bob dydd am ddeg).
- manylion cefndirol e.e. El restaurante era énorme (roedd y bwyty yn enfawr).
- beth roedd pobl arfer ei wneud a sut roedd pethau arfer bod e.e. Antes vivía con mis abulos pero ahora vivo con mi novio. (cyn roeddwn yn byw gyda fy nain a taid ond nawr rwy’n byw gyda fy nghariad).
Berfau Rheolaidd yr Amherffaith
Er mwyn ffurfio’r amherffaith rhaid cyfnewid terfyniad y berfenw (-ar, -er neu –ir) gyda terfyniadau’r amherffaith :
| HABLAR (siarad) | HACER (gwneud) | VIVIR (byw) | |
| yo | Hablaba | Hacía | Vivía |
| tú | Hablabas | Hacías | Vivías |
| él/ella/usted | Hablaba | Hacía | Vivía |
| nosotros/as | Hablábamos | Hacíamos | Vivíamos |
| vosotros/as | Hablabais | Hacíais | Vivíais |
| ellos/ellas/ustedes | Hablaban | Hacían | Vivían |
| Hablaba | Roeddwn i’n siarad |
| Hablabas | Roeddet ti’n siarad |
| Hablaba | Roedd ef/hi’n siarad |
| Hablábamos | Roeddem ni’n siarad |
| Hablabais | Roeddech chi’n siarad |
| Hablaban | Roedden nhw’n siarad |
Berfau Afreolaidd yr Amherffaith
Mae yna tair berf afreolaidd yn yr amherffaith.
| IR (mynd) | SER (bod) | VER (gweld) | |
| yo | Iba | Era | Veía |
| tú | Ibas | Eras | Veías |
| él/ella/usted | Iba | Era | Veía |
| nosotros/as | íbamos | éramos | Veíamos |
| vosotros/as | Ibais | Erais | Veíais |
| ellos/ellas/ustedes | Iban | Eran | Veían |
Y Dyfodol Agos
Beth yw’r dyfodol agos a pryd i’w ddefnyddio ?
Mae’r dyfodol agos yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio beth sydd yn mynd i ddigwydd e.e. Yfory, heno neu wythnos nesaf.
Voy a ir de compras con mis amigos (Rwy’n mynd i fynd i siopa gyda fy ffrindiau).
Er mwyn ffurfio’r dyfodol agos rydych angen defnyddio’r ferf IR yn y presennol + a + berfenw.
| yo | Voy | Beber | |
| tú | Vas | Ir | |
| él/ella/usted | Va | a | Comer |
| nosotros/as | Vamos | Ver | |
| vosotros/as | Vais | Salir | |
| ellos/ellas/ustedes | Van | Hacer |
| Voy a beber | Rwy’n mynd i yfed |
| Vas a beber | Rwyt ti’n mynd i yfed |
| Va a beber | Mae ef/hi’n mynd i yfed |
| Vamos a beber | Rydym ni’n mynd i yfed |
| Vais a beber | Rydych chi’n mynd i yfed |
| Van a beber | Maen nhw’n mynd i yfed |
Y Dyfodol
Beth yw’r dyfodol a pryd i’w ddefnyddio?
Mae’r dyfodol yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio beth sydd yn mynd i ddigwydd yn y dyfodol e.e El edificio sera muy moderno (Fe fydd yr adeilad yn fodern iawn).
Berfau Rheolaidd
Er mwyn ffurfio’r dyfodol rydych yn cymryd y berfenw ac yn ychwanegu terfyniadau’r dyfodol. Mae’r terfyniadau yma yr un peth ar gyfer berfau –ar, -ir ag –er.
| yo | Hablaré |
| tú | Hablarás |
| él/ella/usted | Hablará |
| nosotros/as | Hablaremos |
| vosotros/as | Hablaréis |
| ellos/ellas/ustedes | Hablarán |
| Hablaré | Byddaf yn siarad |
| Hablarás | Byddi di’n siarad |
| Hablará | Bydd ef/hi’n siarad |
| Hablaremos | Byddwn ni’n siarad |
| Hablaréis | Byddwch chi’n siarad |
| Hablarán | Byddan nhw’n siarad |
Berfau Afreolaidd
Mae gan y berfau canlynol bonyn afreolaidd yn y dyfodol ond mae’r terfyniadau yr un peth â’r berfau rheolaidd
Decir (dweud) > diré
Hacer (gwneud) > haré
Poder (gallu) > podré
Ponder (rhoi) > pondré
Querer (eisiau) > querré
Saber (gwybod) > sabré
Salir (mynd allan) > saldré
Tener (cael/bod gennych) > tendré
Venir (dod) > vendré
Yr Amodol
Beth yw’r amodol a pryd i’w ddefnyddio ?
Mae’r amodol yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio beth buaswch chi’n ei wneud yn y dyfodol e.e Me encantaría visitar Nueva York (Byddwn i’n caru ymweld ag Efrog Newydd).
Berfau Rheolaidd
Er mwyn ffurfio’r amodol rydych yn cymryd y berfenw ac yn ychwanegu terfyniadau’r amodol. Mae’r terfyniadau yma yr un peth ar gyfer berfau –ar, -ir ag –er.
| VIVIR (byw) | |
|---|---|
| yo | Viviría |
| tú | Vivirías |
| él/ella/usted | Viviría |
| nosotros/as | Viviríamos |
| vosotros/as | Viviríais |
| ellos/ellas/ustedes | Vivirían |
| Viviría | Buaswn i’n byw |
| Vivirías | Buaset ti’n byw |
| Viviría | Buasai ef/hi’n byw |
| Viviríamos | Buasen ni’n byw |
| Viviríais | Buasech chi’n byw |
| Vivirían | Buasen nhw’n byw |
Berfau Afreolaidd
Mae berfau ble mae bôn y ferf yn afreolaidd yn y dyfodol hefyd gyda bôn y ferf afreolaidd yn yr amodol e.e.
Tener (cael) > tendría, tendrías, tendría, tendríamos, tendríais, tendrían.
Hacer (gwneud) >haría, harías, haría, haríamos, haríais, harían.
Haber (cael) > habría, habrías, habría, habríamos, habríais, habrían.
Ddefnydd ychwanegol o’r Amodol
Gellir defnyddio’r amodol i fynegi syniadau dyfodol gan ddefnyddio’r ferf gustar + berfenw e.e Me gustaría ir al extranjero (Hoffwn i fynd dramor).
Gellir defnyddio’r amodol o’r ferf poder + berfenw er mwyn mynegi’r syniad o rywbeth a gallwch chi ei wneud e.e Podríamos ir al teatro (Gallwn ni fynd i’r theatr).
Gellir defnyddio yr amodol o’r ferf deber + berfenw er mwyn mynegi’r syniad o rywbeth y dylsech chi ei wneud e.e Deberíamos ir a visitar nuestros abuelos (Dylsem ni fynd i ymweld â ein nain a taid).
Y Gerwnd
Beth yw’r gerwnd a pryd i’w ddefnyddio ?
Mae’r gerwnd yn debyg iawn i geiriau ‘ing’ yn Saesneg, e.e. ‘walking’ a ‘talking’.
Rydych yn ei ddefnyddio er mwyn rhoi mwy o wybodaeth am sut mae rhywbeth yn cael ei wneud e.e. Voy andando al polideportivo (Rwy’n cerdded i’r ganolfan hamdden).
Er mwyn ffurfio’r presennol di-dor sydd yn dysgrifio yr hyn sydd yn digwydd ar hyn o bryd e.e ¿ Qué estas haciendo ? (Beth wyt ti’n ei wneud ?).
| yo | Estoy | ||
| tú | Estás | Leyendo | |
| él/ella/usted | Está | + | Caminando |
| nosotros/as | Estamos | Hablando | |
| vosotros/as | Estáis | ||
| ellos/ellas/ustedes | Están |
Estoy leyendo mi libro (Rwy’n darllen fy llyfr)
Er mwyn ffurfio’r amherffaith di-dor sydd yn disgrifio beth oedd yn digwedd mewn sefyllfa yn y gorffennol e.e. Estaba estudiando cuando llegó mi madré (Roeddwn i’n astudio pan gyrhaeddodd fy mam).
| yo | Estaba | ||
| tú | Estabas | Leyendo | |
| él/ella/usted | Estaba | + | Caminando |
| nosotros/as | Estabamos | Hablando | |
| vosotros/as | Estabais | ||
| ellos/ellas/ustedes | Estaban |
Estaban caminando (Roedden nhw’n cerdded)
Ffurfio’r Gerwnd rheolaidd
Er mwyn ffurfio’r gerwnd rheolaidd, cymerwch y berfenw, tynnwch y diweddiad –ar, -er, neu –ir ag ychwanegwch –ando i berfau –ar a –iendo i berfau –er ag –ir.
Mar rhai geryndau afreolaidd yn cynnwys :
Leer (darllen ) > leyendo
Oír (clywed) > oyendo